14 Tachwedd 2023
Annwyl Mark,
Ar 2 Tachwedd 2023, rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru wybod i’r Pwyllgor na fyddech chi’n rhoi tystiolaeth lafar yn ymwneud â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25, ac y byddech yn hytrach yn darparu papur ysgrifenedig. Dywedwyd wrthym mai’r rheswm dros hyn oedd eich bod wedi cytuno’n flaenorol i fod yn bresennol yn un cyfarfod o’r Pwyllgor y flwyddyn, ac y byddai hwnnw’n cyd-daro â chyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar gysylltiadau rhyngwladol.
Eleni, ac efallai hyd yn oed yn fwy felly nag a fu mewn blynyddoedd blaenorol, rydym yn ymwybodol o’r heriau sydd o ran cyllid y llywodraeth, a roeddem wedi gofyn am sesiwn dystiolaeth lafar er mwyn inni allu craffu ar sut y bydd penderfyniadau’n effeithio ar y meysydd cyllidebol yr ydych chi’n dal cyfrifoldeb amdanynt o ran cysylltiadau rhyngwladol. Rydym yn siomedig na fydd hyn yn bosibl, ond rydym yn deall y rhesymau a roddwyd dros hyn.
Gan na fyddwch yn gallu bod yn bresennol yn ein sesiwn dystiolaeth ar 11 Ionawr 2024, byddem yn hoffi cael ymateb manwl i bob un o’r pwyntiau a amlinellwyd wrthych yn ein llythyr ar 25 Hydref 2023. Yn yr un modd â’r llynedd, byddem hefyd yn croesawu ymateb brys i unrhyw geisiadau gennym am ragor o wybodaeth, ar ôl i ni ystyried eich tystiolaeth ysgrifenedig ddechrau mis Ionawr 2024. Bydd hyn yn caniatáu inni adrodd ar ein canfyddiadau mewn pryd ar gyfer y dyddiad cau, sef 5 Chwefror 2024.
Yn gywir,
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.